17/11/2014

Esboniadau: gwrandewch ar y clipiau sain!

Gwrandewch ar y clipiau sain isod i glywed rhai o esboniadau blynyddoedd 5 a 6 am ein defnydd o drydan yn yr ysgol, a beth sydd yn medru effeithio ar y defnydd hwn. Mwynhewch!



Canlyniad y gystadleuaeth!

Yn ystod y prynhawn bu cystadlu brwd rhwng ein 3 tîm wrth i nhw geisio:

1. Cofnodi defnydd trydan yr ysgol ar graff bar (o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2013)
2. Deall a dehongli graff tymheredd cyfartalog Aberporth
3. Deall a dehongli graff oriau o heulwen Aberporth
4. Deall ac esbonio sut mae ffactorau megis y tywydd, a digwyddiadau o fewn yr ysgol (e.e. Noson Rieni) yn medru effeithio ar ein defnydd o drydan

Gan fod y safon mor uchel, penderfynodd y beirniaid fod 3 thîm wedi cyrraedd y brig! Sylwch ar eu gwaith gwych isod! Llongyfarchiadau mawr i'r 3 thîm.

Gwaith rhagorol gan EJ, CD a NJ (Blwyddyn 6)
Gwaith gwych gan GJ, SO, CB, FJ, FfP, OD, SL, AP, RJ, MM, JN, OG, DM a KK (Blwyddyn 5 a 6)
Gwaith ardderchog gan EC, DA, OY, AO, CHL. HH, RhB a JDB...a Mrs Willams! (Blwyddyn 5)

Beth sydd yn medru effeithio ar ein defnydd trydan?

Dyma gopi o gyflwyniad y prynhawn sydd yn dangos:
  • ein gorsaf dywydd leol, sef Aberporth
  • y data sydd yn cael ei gofnodi (tymheredd, glawiad ac oriau o heulwen)
Cliciwch yma os yr ydych am fynd i wefan y "Met Office" i weld y data am eich hun!


   

Sut fedrwn fesur trydan?


Dysgom heddiw taw mesurydd trydan ('electricity meter') sydd yn cadw cofnod o'n defnydd o drydan.

Llwyddom hefyd i ddysgu taw oriau kiloWatt (kWh) yw'r uned sydd yn mesur y defnydd trydan.

Isod fe welwch Mr Bowen a Mrs Davies yn ceisio gwneud synnwyr o ddefnydd trydan yr ysgol!





Ein defnydd o drydan yn Ysgol y Frenni: Gwaith gwych!

Rhan o waith meddwl y bore oedd i gofnodi ble a sut roedd yr ysgol yn defnyddio trydan.

Dyma waith taclus a threfnus gwych o FfP o flwyddyn 5. Da iawn ti!


Beth yw trydan?

Buodd dosbarthiadau blwyddyn 5 a 6 yn weithgar iawn heddiw yn ceisio deall beth yw trydan, a ble yn union mae'r ysgol yn defnyddio trydan. Gwyliwch y cyflwyniad isod i weld beth yn union oedd cynnwys y bore!

10/11/2014

Croeso!



Croeso i flog dosbarth blwyddyn 5 a blwyddyn 6!

Byddwn yn rhannu ein syniadau yma, yn ogystal â dangos gwaith gwych ein dosbarthiadau!

Mwynhewch, a chofiwch adael eich sylwadau fel ein bod yn medru clywed eich barn! Diolch am ddarllen :o)